Search

Home > Beti a'i Phobol > Teleri Wyn Davies.
Podcast: Beti a'i Phobol
Episode:

Teleri Wyn Davies.

Category: Society & Culture
Duration: 00:50:13
Publish Date: 2025-03-09 19:00:00
Description:

" Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. " Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol".

Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi’r gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy’n cysylltu Hong Kong â'r tir mawr.

Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael sêl bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar ôl cael ei barlysu wrth chwarae ei gêm olaf i Glwb Rygbi'r Bala. Naw oed oedd Teleri ar y pryd, ac mae hi'n cofio'r diwrnod yn glir, ac yn trafod dylanwad ei thad a'i mam.

Mae hi'n trafod rygbi merched ac yn rhannu straeon ei bywyd yn ogystal â dewis caneuon sydd wedi dylanwadu arni, gan gynnwys cân Mynediad am Ddim - Cofio dy Wyneb. Hon oedd y gân ar gyfer angladd Dad. "Mae jyst yn gân mor neis a mor agos i nghalon i. " Mi ddaru’r hogiau rygbi ddod at ei gilydd a chanu hon.

Total Play: 0

Some more Podcasts by BBC

100+ Episodes
Desert Islan .. 200+     9
30+ Episodes
Sport and th .. 20+     4
100+ Episodes
Desert Islan .. 20+     1
20+ Episodes
The Leisure .. 8     1
200+ Episodes
Desert Islan .. 400+     10+
20+ Episodes
Desert Islan .. 10+     3
7 Episodes
WW2: War and .. 70+     30+
10+ Episodes
Cold War: St .. 40+     10+